Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (125) |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.23
3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Adolygiad o Wasanaethau Newyddenedigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Dechreuodd yr eitem am 14.37
4. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Y wybodaeth ddiweddaraf am Ardaloedd Menter
Dechreuodd yr eitem am 15.09
5. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Y wybodaeth ddiweddaraf am Ardrethi Busnes
Dechreuodd yr eitem am 15.41
6. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Ofal Heb ei Drefnu
Dechreuodd yr eitem am 16.15
7. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Ymgysylltu a Datblygiad Ieuenctid
Dechreuodd yr eitem am 16.54
8. Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Diddymu'r cyrff sy'n gysylltiedig â'r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol - gohiriwyd tan 30 Ebrill 2013
Gohiriwyd yr eitem tan 30 Ebrill 2013.
9. Dadl: Gofal Diwedd Oes
Dechreuodd yr eitem am 17.24
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5209 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud hyd yn hyn i wella gwasanaeth gofal diwedd oes; a
2. Yn nodi Law yn Llaw at Iechyd: Darparu Gofal Diwedd Oes.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi pwysigrwydd darparu gwasanaethau gofal diwedd oes o safon uchel yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu fel pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod cyfraniad y mudiad hosbis, a darparwyr gofal eraill, tuag at ofal diwedd oes o safon uchel.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu fel pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod pwysigrwydd parchu dymuniadau cleifion wrth ddarparu gofal diwedd oes.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu’r manteision y gall taliadau uniongyrchol eu cynnig i wella profiad y claf ar gyfer pobl sy’n cael gofal diwedd oes.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu y bydd toriadau termau real i’r gyllideb iechyd yn llesteirio’r cynnydd o ran gwella gofal diwedd oes yng Nghymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailflaenoriaethu’i chyllidebau i sicrhau bod adnoddau priodol ar gael.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
5 |
33 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5209 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud hyd yn hyn i wella gwasanaeth gofal diwedd oes;
2. Yn cydnabod pwysigrwydd parchu dymuniadau cleifion wrth ddarparu gofal diwedd oes;
3. Yn cydnabod cyfraniad y mudiad hosbis, a darparwyr gofal eraill, tuag at ofal diwedd oes o safon uchel; a
4. Yn nodi Law yn Llaw at Iechyd: Darparu Gofal Diwedd Oes.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 18.21
10. Dadl Fer - gohiriwyd ers 20 Mawrth 2013
Dechreuodd yr eitem am 18.24
NDM5208 Ken Skates (De Clwyd): Y tu hwnt i Fae Caerdydd – Rôl newidiol cyfryngau lleol a rhanbarthol ledled Cymru.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:49
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 24 Ebrill 2013